Psalms 88

Gweiddi am help

Cân. Salm gan feibion Cora. I'r arweinydd cerdd: ar  “Mahalath Leanoth”. Mascîl gan Heman yr Esrachiad.

1O Arglwydd, y Duw sy'n fy achub,
dw i'n gweiddi am dy help bob dydd
ac yn gweddïo arnat ti bob nos.
2Plîs cymer sylw o'm gweddi,
a gwranda arna i'n galw arnat ti.
3Dw i mewn helynt dychrynllyd;
yn wir, dw i bron marw.
4Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i'r bedd.
Dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd,
5ac wedi ei adael i farw a'i daflu i fedd cyffredin
gyda'r milwyr eraill sydd wedi eu lladd –
y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach,
ac sydd ddim angen dy ofal bellach.
6Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll,
mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder.
7Mae dy ddig yn pwyso'n drwm arna i.
Dw i'n boddi dan dy donnau di.

 Saib
8Ti wedi gwneud i'm ffrindiau agos gadw draw;
dw i'n ffiaidd yn eu golwg nhw.
Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc.
9Mae fy llygaid yn wan gan flinder;
O Arglwydd, dw i wedi galw arnat ti bob dydd;
dw i'n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti.
10Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw?
Ydy'r meirw yn codi i dy foli di?

 Saib
11Ydy'r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon?
Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon
88:11 Abadon sef, "lle dinistr"
?
12Ydy'r rhai sy'n y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau?
Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?
13Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, Arglwydd.
Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore.
14Felly pam, O Arglwydd, wyt ti'n fy ngwrthod i?
Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?
15Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc;
dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy,
nes fy mod wedi fy mharlysu.
16Mae dy lid wedi llifo drosta i;
mae dy ddychryn wedi fy ninistrio.
17Mae'r cwbl yn troelli o'm cwmpas fel llifogydd;
maen nhw'n cau amdana i o bob cyfeiriad.
18Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i –
Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy'r tywyllwch!
Copyright information for CYM